Mae'r dydd yn dod i'r had brenhinol Gael mordwyo tua'u gwlad O gaethiwed y priddfeini I deyrnasu gyda'u Tad; Eu ffydd tu draw a dry yn olwg, A'u gobaith eiddil yn fwynhad, Annherfynol fydd yr anthem, Dyrchafu rhinwedd gwerthfawr waed.
Mae fy nghalon am ymadael  phob rhyw eilunod mwy, Am fod arni'n sgrifenedig Ddelw gwrthrych llawer mwy – Anfeidrol deilwng i'w addoli, Ei garu, a'i barchu, yn y byd; Bywyd myrdd o safn marwolaeth A gafwyd yn ei angau drud.
Arogli'n beraidd mae fy nardus Wrth wledda ar y cariad rhad; Sêl yn tanio yn erbyn pechod, Caru delw sancteiddhad; Torri ymaith law a llygad Ynghyd ag uchel drem i lawr; Neb yn deilwng o'i ddyrchafu Onid Iesu, 'r Brenin mawr.
O! am fywyd o sancteiddio Sanctaidd enw pur fy Nuw Ac ymostwng i'w ewyllys A'i lywodraeth tra fwyf byw; Byw dan addunedu a thalu, Byw dan ymnerthu yn y gras Sydd yng Nghrist yn drysoredig I orchfygu ar y maes.
Addurna'm henaid ar dy ddelw, Gwna fi'n ddychryn yn dy law, I uffern, llygredd, annuwioldeb, Wrth edrych arnaf i gael braw; O! am gymdeithasu â'r Enw, Ennaint tywalltedig yw, Yn hallt i'r byd, gan bêr aroglau O hawddgar ddoniau eglwys Dduw. |