O! am gael ffydd i edrych Gyda'r angylion fry I drefn yr iechydwriaeth, Dirgelwch ynddi sy; Dwy natur mewn un Person Yn anwahanol mwy, Mewn purdeb heb gymysgu, Yn berffaith hollol trwy.
O! f'enaid, gwêl addasrwydd Y Person dwyfol hwn, Mentra arno'th fywyd A bwrw arno'th bwn; Mae'n ddyn i gydymdeimlo Â'th holl wendidau i gyd, Mae'n Dduw i gario'r orsedd Ar ddiafol, cnawd, a byd.
Rhyw hiraeth sy am ymadael Bob dydd â'r gwaedlyd faes, Nid â'r arch, nac Israel, Ond hunanymchwydd cas; Cael dod at fwrdd y Brenin, A'm gwadd i eiste'n uwch, A minnau, wan ac eiddil, Am garu yn y llwch.
Er cryfed ydyw'r stormydd Ac ymchwydd tonnau'r môr, Doethineb ydyw'r peilat, A'i enw'n gadarn Iôr; Er gwaethaf dilyw pechod A llygredd o bob rhyw, Dihangol yn y diwedd Am fod yr arch yn Dduw. |