Pan fo'r enaid mwya' gwresog Yn tanllyd garu'n mwya' byw, Y mae'r pryd hynny yn fyr o gyrraedd Perffaith sanctaidd gyfraith Duw; O! am gael ei hanrhydeddu Trwy dderbyn iechydwriaeth rad, A'r cymundeb mwya' melys, Wedi ei drochi yn y gwaed.
Rhyfeddu a wna' i â mawr ryfeddod Pan ddêl i ben y ddedwydd awr Caf weld fy meddwl, sy yma'n gwibio Ar ôl teganau gwael y llawr, Wedi ei dragwyddol setlo Ar wrthrych mawr ei Berson Ef, A diysgog gydymffurfio  phur a sanctaidd ddeddfau'r nef. |